OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 54 (Cy. 24)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn cymhwyso amryw o ddeddfiadau i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd o arwyddocâd cenedlaethol.
Mae’r Gorchymyn hefyd yn addasu’r deddfiadau hynny, pan fo’n briodol gwneud hynny.
Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 54 (Cy. 24)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016
Gwnaed 27 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Chwefrorr 2016
Yn dod i rym 1 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 75A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
RHAN 1
Rhagarweiniol
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 1 Mawrth 2016.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Cymhwyso Deddf 1990 i geisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir mewn cysylltiad â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol
3.—(1)(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1990
yn gymwys i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran
62D o’r Ddeddf honno([2]) gydag addasiadau fel
bod cyfeiriadau at awdurdodau cynllunio lleol yn cael eu trin fel
cyfeiriadau at Weinidogion Cymru—
(a) adran 62(1);
(b) adran 62(3);
(c) adran 65(5);
(d) adran 70(1);
(e) adran 70(2)([3]);
(f) adran 70A(1)([4]);
(g) adran 70A(2);
(h) adran 71(1)([5]);
(i) adran 71(2);
(j) adran 72(1);
(k) adran 73(2);
(l) adran 73A(1)([6]); ac
(m) adran 327A(2)([7]).
(2) Pan fo unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf 1990 yn cyfeirio at ddarpariaeth a addesir gan y Gorchymyn hwn, rhaid darllen y cyfeiriad hwnnw, mewn perthynas â chais o dan adran 62D o’r Ddeddf honno, fel pe bai’n gyfeiriad at y ddarpariaeth fel y’i haddaswyd.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016
([1]) 1990 p. 8; Mewnosodwyd adran 75A gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), a pharagraff 7 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.
([4]) Mewnosodwyd adran 70A gan adran 17(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Gwnaed diwygiadau i adran 70A nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.